Ww, plis, dwi angen y gan 'Dewin, Dewin' yna!
Mejon, do, wedi newid fy enw yn ddiweddar - Essie oeddwn i. (Yn ddoniol iawn, roeddwn i'n meddwl am hynny wrth weld enw BessieBoots - mi fydden ni efo enwau tebyg iawn. A siawns y byddai hynny'n cael ei weld yn amheus ar yr edefyn arall...)
Moondog helo! Da ni'n dod ar draws ein gilydd bob hyn a hyn ar mumsnet.
Wel, mae'r edefyn arall wedi dirwyn i ben. Dwi'n dal i bendroni ynghylch cyfaddef ychydig ar yr edefyn (roedden nhw'n gweiddi 'where is OP, where is OP' dipyn yn ol! ).
Y peth ydi, roedd hi'n amser distaw yn y gwaith ac rydw i wedi bod yn ystyried gwneud hyn ers sbel, sef cychwyn edefyn i weld beth yn union ydi'r agwedd... a dyna wneud.
Mae'r sefyllfa'n hollol wir, wrth gwrs. Ond os oedd red herring, y busnes PILs oedd o. Dwi'n tynnu ymlaen yn iawn efo nhw, ac er iddyn nhw ddweud unwaith eu bod nhw'n anhapus, mi wnaeth DH (druan!! wedi i mi dynnu'r gag oddi ar ei ben!) egluro ac mae nhw'n iawn efo'r peth.
Mi oedd y trip i'r sw yn broblem am tua hanner diwrnod, ond fy mhroblem i oedd y pellter efo pobl anghyfarwydd, nid y mater iaith/nid stopio PILs rhag gweld Iestyn. Mi daflais hwnnw i mewn jest i weld...a dyna edefyn arall yn tyfu ohono.
Felly mi wnes i roi sbin ar yr agwedd yna er mwyn cael effaith - a bois bach, gefais i effaith!!
(Ond, mi ddylwn i ddweud bod PIL yn wrth-Gymreig ac yn dweud pethau erchyll - ond mi ydan ni'n ateb, dyna ydi'r pwynt, nid jest gwrando, a chrio yn ddistaw!! Mae MIL yn sicr yn erbyn newid clytiau, ac efo'r trip sw, mi ddywedais i ar y ffon 'it's rather far isn't it' ac mi ddywedodd hithau 'actually you're right, that wouldn't be relaxing for you, and ho ho, I don't have to change nappies either'. Ac mae hi yn erbyn bwydo o'r fron ond ddim yn gwneud ffys gweiddi am y peth; a dwi ddim mor ansensitif i'w wneud o wrth y bwrdd bwyd achos mae gan pawb eu teimladau waeth pa mor anghywir ydw i'n meddwl ydyn nhw.) Felly, dyna'r cyfaddefiad - mi wnes i ddal rhai pethau yn ol ('for dramatic effect'). A'i roi yn AIBU nid Chat, lle mae pethau'n fwy bywiog.
Ta waeth, yr hyn oedd yn ddiddorol i mi oedd y ffaith bod pobl yn defnyddio'r busnes PIL fel rheswm. Fel dweud 'I'm not racist but...'. Ac yn y bon, roedd nifer o'r rhai gwyllt yn eu dangos eu hunain i fyny trwy ddweud pethau mawr i amddiffyn y PILs (sydd ddim yn anghenfilod ond yn bobl normal) ond yn gwrth-ddweud yn llwyr: pethau fel 'it's great she's speaking with her son in Welsh but...'.
A doeddwn i ddim yn disgwyl y busnes DH o gwbl. Roedd o'n hollol, hollol bisar. Mae o'n chwerthin am y cyfan. Bore ma, roeddwn i'n pendroni o ddifrif am yr agwedd ato fo - a'r unig beth y medra i feddwl ydi bod pobl yn hollol, hollol anghyfforddus efo'u cenedligrwydd eu hunain. Mae DH yn gyfforddus iawn fel Sais - Sais ydi o, does dim gwadu, a faswn i ddim isio iddo fo wadu! - mor gyfforddus, nes ei fod o'n medru siarad Cymraeg efo Iestyn heb boeni gormod am golli dim o'i brofiad ei hun.
Y broblem fawr arall ydi gwybod yn union beth ydi dwyieithrwydd. Dwi bob amser yn chwerthin yn ddistaw yn gweld slogan Twf yn ddwyieithog: 2 languages from day 1/Cymraeg o'r crud...ho ho ho!
A dweud y gwir, mae sgop am astudiaeth ar hyn - mae fy ffrind-drws-nesa yn seicolegydd (byd enwog) yn arbenigo ar ddwyieithrwydd mewn plant ifanc yng Nghymru, ac wedi erfyn am gopi o'r edefyn.
O God, mae'n stori mor hir mi fedrwn i fynd ymlaen am 5 tudalen arall. Post mortem bach oedd hwnna - a diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth a'ch sylwadau call (wel, jest normal!!) mewn sefyllfa digon hyll. Ella ei bod hi'n well jest gadael iddi farw. Ond profiad diddorol.
Gyda llaw, dwi'n dweud hyn oll rhag ofn i chi feddwl fy mod i'n mynd i drafferth mawr mawr efo'r Gymraeg jest er mwyn cadw PILs draw - mae nhw ar eu ffordd acw heno digwydd bod, yn aros efo fy rhieni achos dydyn nhw ddim yn bwyta fy mwyd i (dydyn nhw ddim yn hawdd, ond dwi ddim yn eu casau nhw a mae nhw'n nain a thaid i Iestyn);
neu rhag i chi feddwl fy mod i'n gorfodi DH i siarad Cymraeg yn erbyn ei ewyllys (sut, plis sut?);
neu fy mod i'n control freak, sicko etc etc. (Ok, dwi'n ychydig o control freak...ond ddim felna)
Iawn, digon o'r cyfaddef. Sut aeth eisteddfod yr urdd? Mae Iestyn yn rhy fach. (Mae o'n 2 wythnos nesa. ) Unrhyw un yn mynd i'r Genedlaethol??
Gyda llaw, oes unrhyw un yma yn y Gogledd? Dwi yn Ynys Mon.