Are your children’s vaccines up to date?

Set a reminder

Please or to access all these features

Parenting

For free parenting resources please check out the Early Years Alliance's Family Corner.

Edefyn Cymraeg! (Welsh language thread)

75 replies

BessieBoots · 25/03/2010 07:32

Wel, dyma fo ta. Edefyn i drafod a rhannu profiadau o fagu plant yn ddwyieithog/ drwy gyfrwng y Gymraeg.

Croeso i ddysgwyr!

OP posts:
Are your children’s vaccines up to date?
BessieBoots · 07/06/2010 21:06

Oes 'na newyddion gan Cariadbach tybed?

Sut wnaeth pawb yn Llannerchaeron?

OP posts:
helyg · 08/06/2010 09:48

Wel ces i llwyfan am y tro cyntaf erioed yn Llanerchaeron... gyda 250 o blant oedran meithrin, Bili Bon Bon a Coblyn!

YouKnowNothingoftheCrunch · 08/06/2010 10:16

Bore da!

'Dw i'n dod o rywle ofnadwy o agos i Bessieboots yn gwreiddiol!

Ond 'dw i 'di byw yn Loegr am mwy na deg mlynedd nawr. Es i i ysgol gymraeg on ers gadael Cymru 'dw i ddim wedi siarad yr iaith bron o gwbwl

Sori am y camgymariedau (sp)! Dw i'n mas o ymarfer.

Mae'n anodd gorfod mynd i syt ymdrech i wneud rhywbeth roeddwn i'n gallu wneud yn fy ngwsg deg mlynedd yn ol!

Interested in this thread?

Then you might like threads about this subject:

LunaticFringe · 08/06/2010 10:24

This reply has been deleted

Message withdrawn

BessieBoots · 08/06/2010 12:40

Wwww llongyfarchiadau helyg! Wyt ti 'di bod i Bentre Bach?

YouKnowNothing, o le wyt ti'n dod? Mae dy Gymraeg di'n gret- Treiglo a phob dim!

Ma'n rhaid i mi stopio darllen yr edefyn arall yna ar ddwyieithrwydd... Mae o'n mynd dan fy nghroen i go iawn...

OP posts:
helyg · 08/06/2010 13:07

Do, sawl gwaith. Es i i'r ysgol yn Nhregaron felly dwi'n nabod yr ardal yn dda, ac mae bron pob trip o'r ysgol a'r ysgol feithrin yn mynd i Bentre Bach nawr

Mae'r edefyn arall yn fy hela i'n benwan. Mae'n drist i weld bod sut gymaint o anwybodaeth am yr iaith Gymraeg.

YouKnowNothingoftheCrunch · 08/06/2010 13:42

Bessie, dw i'n dod o rwng machynlleth a Aberystwyth, tua 20 muned o Aber

Dw i'n dod adre (bydd Cymru yn "adre" am byth) mor amal ac sy'n posib. Mae'r treiglo bach yn hit and miss! Mae rhaid i fi ymarfer mwy.

Symydodd fy chwaer nol i Aber cwpwl o flynyddoedd yn ol a nawr mae hi'n gwbl cyfforddus yn siarad Gymraeg eto.

Mae'r geirfa yn fy mhen rhywle (gobeithio)

helyg! Ro ti'n "Trigger Girl"?

Gwell i fi ddim agor yr edefyn arall, rwyn credu!

Lunatic, my Tadcu was a fluent welsh speaker, but mum never learnt (grew up in England) as a child. When she moved there in her 20s she learnt and is now better than me - a lot of her job is now in Welsh. It's never too late to learn!

helyg · 08/06/2010 13:45

Youknownothing: Na, o'n i'n "Mamarywe" am adeg, ond wedi bod yn "Helyg" ers cyfnod hir.

Yn ceisio dyfalu o lle wyt ti'n dod, Taliesin falle? Es ti i Benweddig?

BessieBoots · 08/06/2010 13:53

Mae'r trip rhwng Aber a Mach yn braf (er, ddim mor braf efo car yn llawn plant yn sgrechian bod nhw ddim isho mynd i Morrissons...). 'Dwi'n nabod ambell berson yn Nhalybont.

'Da ni'n mynd i Bentre Bach ar ddechrau'r Haf i ddathlu pen-blwydd MA (Mab Annwyl... Tydw i'n glyfar..)

OP posts:
hobnobsaremyfavourite · 08/06/2010 14:00

Helo! Dod fan hyn i gael bach o sanity ar ol yr edefy gwallgo arall na!!

YouKnowNothingoftheCrunch · 08/06/2010 14:10

Ie, es i i Benweddig. A mae Taliesin yn ofnadwy o agos. Dw i ddim yn mynd i ddweud mwy, mae'r byd yn rhy bach!

helyg · 08/06/2010 14:25

Dwi'n eitha agos i'r ardal. Es i ddim i Benweddig a dwi bach yn hynach na ti felly wyt ti'n saff!

Mae'r edefyn arall yn cymryd drosto'n mywyd i heddiw!

DewinDoeth · 08/06/2010 14:30

Dwi'n cuddio yn fama rwan achos mae'r edefyn arall wedi mynd yn hynod hyll... (diolch Helyg, gyda llaw, am ymateb yn gall yn rheolaidd)!
Dwi'n ei chael hi'n anodd iawn credu bod pobl mor gul! Mi wna i gyfaddef fy mod wedi dechrau'r drafodaeth er mwyn, ym, codi twrw, ond mae'r ffordd mae o wedi troi allan yn anhygoel. (Yr hyn sy'n fy synnu fwyaf, gyda llaw, ydi'r feirniadaeth ar DH druan - oes yna neb sy'n gweld ei fod o yn eithaf gwych, yn dysgu Cymraeg ac yn siarad Cymraeg yn unig gyda ein mab...o gariad a pharch??)

Ta waeth! Fi, wel, dwi'n byw yn Ynys Mon! Ac yn gweithio ym Mangor. 1 mab, Iestyn Seiriol. (Ond does dim dyfodol iddo fo achos bod ei fam yn erchyll...)

Dwi'n emosiynol iawn heddiw - mae o wedi symud i'r stafell nesaf yn y feithrinfa!

DewinDoeth · 08/06/2010 14:30

O, a dwi'n gyfarwydd a Cheredigion: roeddwn i'n byw yn Llanbadarn am bedair blynedd.

helyg · 08/06/2010 14:39

Call? Rwy'n falch fy mod i wedi doid drosto fylna, achos o'n i'n berwi tu fewn ar rhai adegau!

Druan bach a'r plant, does dim llawer o dyfodol gyda nhw oes e? Yn cael eu magu yn siarad iaith amherthnasol...

Dwi'n siwr bydd e'n iawn yn y stafell newydd, ond mae'n anodd i ni fel mamau! Mae fy mhlentyn ieuaf newydd dechrau ysgol llawn amser (ar ol Pasg) a dwi dal yn teimlo bach yn drist. Ond mae 3 yn ddigon, dwi ddim yn bwriadu cael y 4ydd i llenwi'r bwlch!

YouKnowNothingoftheCrunch · 08/06/2010 14:41

Helo Hobnobs a Dewin.

Mae gymaint o'r problemau sy' 'da pobol ar dy edefyn yn dod o'r ffaith bod Lloegr yn un-ieithog. Mae'n anodd iddyn nhw weld syt gall plant tyfu lan gyda un iaith yn y gartref a dal yn gallu bod yn gwbwl dwy-ieithog fel oedolion.

Mae'n rhywbeth dieithr a anghyfforddus iddyn nhw.

helyg · 08/06/2010 14:42

doid

'Na beth sy'n digwydd pan dwi'n teipio'n rhy gyflym er mwyn cael cip bach arall ar YR EDEFYN HYLL

hobnobsaremyfavourite · 08/06/2010 15:06

Dwi bron a cuddio'r edefyn aral achos ma un peth sy'n hala fi'n wallgo pobol sy'n dweud un peth weithiau a peth arall pryd arall. Pan ma pobol wedi dechre edefynon (!!!) am bobl sy'n siarad unryw iaith arall gyda ei plant ma nhw'n cael ei clodfori ond ma na bobl ar yr edefyn arall sydd wedi clodforu pobol am fod yn ddwyieithog yn y gorffennol yn galw dewin yn bob enw dan haul!
Dwi i yng Nghaerdydd on o'r gorllewin gwyllt yn wreiddiol. Ac mae gen i bedwar o blant yn derby addysg gymraeg druan a nhw

BessieBoots · 08/06/2010 16:36

'Dwi wedi gorfod anwybyddu'r edefyn hyll. Mae 'na bobol sydd jysd ddim yn dallt, a wnawn nhw byth ddallt. Tydyn nhw ddim yn gweld mor imperialaidd maen nhw'n bod. Mae o'n gwneud i fi isho sgrechian!

Iestyn Seiriol yn enw gwych- 'dwi wrth fy modd efo enwau seintiau Mon. Roedd fy ffrind i am alw'i mab yn Cybi unwaith, ond mi newidiodd ei meddwl munud ola'.

OP posts:
helyg · 08/06/2010 19:30

'Dwi dal ar yr edefyn arall, yn curo'm mhen ar y wal...

Mae un neu ddau yn gofyn cwestiynnau call, ond mae'r lleill yn siarad rwtsh!!!!!

hobnobsaremyfavourite · 08/06/2010 20:42

Teimlo ychydig yn well ar ol dweud wrth un twpsyn ar yr edefyn hyll ble i fynd

BessieBoots · 08/06/2010 20:56

Da iawn chdi hobnobs... 'Dwi newydd ymateb hefyd, ond 'dwi dan yr argraff bod pobol wedi ffurfio barn cyn cyrraedd yr edefyn, a ddim isho newid eu meddyliau ar unrhyw gyfri...

OP posts:
mejon · 09/06/2010 14:11

Dwi'n cyrraedd braidd yn hwyr i'r holl sgandal ma' arna'i ofn. Dwi di bod yn darllen yr edefyn(nau?) eraill ond mae pawb yma wedi esbonio fy safbwynt i mor effeithiol dwi'm ym meddwl allai ychwanegu unrhywbeth arall. Mae anwybodaeth rhai pobl yn reit syfrdanol.

Dwi wedi bod yn siarad Cymraeg gyda AF (annwyl ferch - geddit!) ers ei geni ond er gwaetha hyn, Saesneg mae hi'n ei siarad gyda fi a nain a tadcu er ei bod hi'n deall Cymraeg yn iawn ac yn defnyddio geiriau a brawddegau o fewn y Saesneg ('I want to go fanna', 'I want hwnna'!). Dwi'n gobeithio y bydd hi'n newid pan fydd hi'n dechrau yn yr ysgol ym mis Medi. Er gwaetha beth mae lot 'draw fanna' yn feddwl, mae'n amhosib peidio dysgu Saesneg.

helyg - roedd AF yn y pasiant meithrin yn yr eisteddfod hefyd! Yn anffodus roedd ei grwp hi reit yn y cefn felly welson ni ddim ohoni ar y llwyfan ond mae'n dal i ganu'r caneuon er ei bod wedi dychryn ac wedi crio drwy'r ymarfer gawson nhw cyn y diwrnod mawr am nad oedd hi'n licio Coblyn a Bili Bombom (dwi'm yn gweld bai arni!).

DewinDoeth - wyt ti wedi newid dy enw yn ddiweddar? Dwi'n meddwl fy mod i wedi ateb ymholiad wnes di am lety ar gyfer yr Eisteddod Gen. Dwi'n iawn?

helyg · 09/06/2010 14:36

Os oedd hi yn yr ymarfer yn Llanfarian roedd e'n shambles, o'n i bron a llefen heb son am y blant!

Dewin, Dewin... Mae pawb yn ffrind i Ddewin...

Dyna un o'r caneuon o'r pasiant, falle dylen ni canu e fan hyn?

moondog · 09/06/2010 14:42

Duw, pediwch a chymeryd sylw!Mae'r sylwadau yn gwneud i fi chwerthin a ddweud y gwir, a dwi'n rhywun sydd wedi tyfu i fyny yn bell bell o Gymru ond yn siarad Cymraeg diolch am weledigaeth fy nhad.

Mae'r ymateb arferol fi i agweddau fel hyn yn dueddol o fod rhywbeth fel
'Yes, well as a monolingual it is understandable that you have no grasp of this' (Mae nhw'n mynd yn wallgo wedyn sydd yn hwyl!)

Pob lwc i dy wr, DD. mae o'n benderfyniad dewr iawn. Os mae o'n ddigon hyderus i'w wneud, wel, dyna fo. Dwi'n nabod sawl un arall sydd wedi gwneud hyn (yn cynnwys Americanwyr.)

Swipe left for the next trending thread