Are your children’s vaccines up to date?

Set a reminder

Please or to access all these features

Parenting

For free parenting resources please check out the Early Years Alliance's Family Corner.

Speaking welsh in Birmingham

42 replies

cat61 · 29/06/2006 11:10

Oes rhywun mas yna yn siarad Cymraeg gyda'i plant ac yn byw yn Birmingham?

OP posts:
Are your children’s vaccines up to date?
moondog · 15/05/2007 08:23

Ble wyt ti felly Burek?
(A pham wnes ti ddewis yr enw allan o ddiddordeb?)

burek · 15/05/2007 09:24

Rwy'n byw ym Mosnia ers bron blwyddyn. Rwy'n dychmygu taw fi a fy DS yw'r unig siaradwyr Cymraeg yma .
mae burek yn math o pie cig traddodiadol bosneg. Rwy'n trio peidio bwyta fe yn rhy aml ond mae e yn hyfryd.
Wyt ti yn y de neu yn y gogledd?

moondog · 15/05/2007 10:23

Hi Burek
Wyt ti'n cofio,wnes i son amdanynt o blaen achos dwi wedi bod yn byw yn Nhwrci tan diweddar iawn.Yng Nghaernarfon ar hyn bryd ond yn byw bob man..Rwsia yn ddiweddar hefyd.

Mae'r gwr yn Tajikistan ar hyn o bryd.Dwi'n teithio yn ol ac ymlaen i fod efo fo ond gan fy mod i'n gweithio yma ac yn gwneud MSc ac efo plant,dwi'n aros yng Nghymru reit aml.

Betn wyt ti'n gwneud ym Mosnia?

Mae na Gymry bob man diolch byth!

Interested in this thread?

Then you might like threads about these subjects:

Pixiefish · 15/05/2007 12:23

haia Burek- dwi yn y gogledd- ddim yn bell ofnadwy o Moondog

burek · 15/05/2007 17:48

Moondog - cofiais i yn sydyn yng nghanol y p'nawn! felly rwyt ti'n gyfarwydd a burek, 'te!
Dyna llefydd diddorol - Rwsia, Twrci. A sut lle yw Tajikistan?
Helo Pixiefish!

moondog · 15/05/2007 23:48

Dim yn siwr eto-dwi heb fod gan bod pethau mor brysur yma.Wrth fy modd efo burek!
(Sut wyt ti'n ffeindio fo i siarad Cymraeg heb gwmni Cymry eraill?)

cat64 · 16/05/2007 00:26

This reply has been deleted

Message withdrawn

burek · 16/05/2007 09:27

Rwy'n llwyddo siarad Cymraeg gyda'r teulu trwy Skype dwy neu tair gwaith yr wythnos, a rwy'n siarad Cymraeg gdya fy DS... ond gan ei bod e'n 3 blwydd oed, dyw'r sgyrsiau ddim yn eang ofnadwy! Dyw fy DH ddim yn siarad cymraeg felly weithiau rwy yn teimlo braidd yn 'araf' pan rwy'n dechrau siarad cymraeg a fy chwaer ar y ffon.

Daethom ni yma blwyddyn yn ol i fyw, er mwyn trio rhywbeth newydd. Mae'n stori hir ond roedd fy DH (AG??) yn arfer dod yma yn ystod y rhyfel diwethaf, yn dod a chymorth gyda elusen, a gwnaeth e llawer o ffrindiau yma a dod yn ol yn aml i ymweld a pawb ar ol diwedd y rhyfel. Prynon ni ty yma 3 blynedd yn ol a penderfynnu trio dod i fyw yma a dechrau busnes. Mae'r busnes yn cynnig 'language services' (final editing, gwersi, etc) a hefyd 4x4 green laning tours trwy'r mynyddoedd. Dyma ni ar ilovebosnia.com os wyt ti am gweld y fath le yw Bosnia.
Rydym ni yn hapus iawn gyda'r penderfyniad o ddod i fyw yma. Mae gyda ni pethau yma a fydde wedi cymryd degawdau i ni llwyddo cael draw yng Nghymru neu Lloegr. Does dim morgais 'da ni, mae gyda ni darn mawr o dir, mae gyda ni ein busnes ein hunain, a mae gyda ni amser i fod gyda'n gilydd pob dydd a tyfu bwyd yn yr ardd. 'Living the dream' mewn ffordd! Roedd bywyd yn Lloegr yn llawer rhy stressy, yn gweithio oriau hir a byth yn cael siawns treilio amser fel teulu.

Sut oedd bywyd yn Nhwrci? roeddwn i'n gwylio soap opera o Dwrci wythnos diwethaf (roeddd e'n bwrw glaw - dyna fy esgys! ) a roedd eitha lot o eiriau tebyg i Bosneg. Cysylltiad hanesyddol wrth gwrs, ond roeddwn i dal yn synnu.

moondog · 16/05/2007 23:37

Diddorol dros ben a dwi wedi edrych ar y wefan hefyd. Gwych!
Roedd Twrci yn brofiad hynod o ddiddorol.Roeddwn i yn y dwyrain (Van) wrth yml y ffin efo Syria ac Iraq. Kwrdiaid ydynt wrth cwrs felly digon o dir cyffredin rhwng y Cymry ym Mhrydain.
Mae'r gwr yn gweithio yn y maes datblygiad economaidd efo pobl fel DFID.

Wedi tyfu i fyny tramor fy hun (PNG a Zambia) felly wedi arfer efo magu plant tramor efo iaith arall gan na dyna beth wnaeth fy nhad (Saesnes yw Mam) ac roedd hyn yn ol yn y 60 egau a 90egau cyn cyfnod Skype, DVDs,fideos ac yn y blaen.

Mor falch ei fod o wedi gwneud yr ymdrech.

Mae gen i ddiddordeb profesiynol hefyd gan fy mod yn therapydd iaith a lleferydd ac yn gwneud rhan mwyaf o fy ngwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.

moondog · 16/05/2007 23:38

Mae rhain yn bobl reit ddiddorol....

gwenynbee · 17/05/2007 07:55

Hi Cat61!!

Mi rydw i'n byw jyst tua allan i Birmingham - cefais fy ngeni yn y ddinas, ond wedi byw yng Ghymru am rhan fwyaf o fy mywyd. Mi rydw i di dod yn ol yma ers 1992. Mae gennyf ds sydd bron yn 2. Mae gennyf ffrind sydd yn "nanny" sydd yn siarad y lingo, ac rydym yn cyfarfod hefo'r plant yn aml - os oes gen ti ddiddordeb cyfarfod a ni - mae croeso i ti!!

Mi wnes i ymuno a Chymdeithas Cymraeg yn Lichfield, a weithia mi fyddai'n mynd i'r capeli Cymraeg!!

Mi rydw i wedi meddwl dechrau "Ti a Fi" lawr yn fama ers tro - os oes mwy o Gymry allan yn fama yn y canolbarth cysylltwch a mi - plis!!!!

Yn gynnes

Gwenyn

gwenynbee · 17/05/2007 08:56

Just read the posts from last year - Bil and Sil???? LOL. Remind me of a song off the TWF CD - "Teisen i Sil a Banana i Bil a thamaid i'r gath a'r ci" lol

moondog · 17/05/2007 19:46

lol gwenyn!

Pixiefish · 17/05/2007 19:53

I sing that to my dd gwenyn

burek · 19/05/2007 12:59

Diolch am y wefan, moondog. Mae gyda ni 2 o'r CDs TWF a mae DS yn ffan mawr! Mae un ohonyn nhw wedi bod arno trwy'r bore fel mae'n digwydd!! Mae'n biti does dim llawer o bobol yn defnyddio y message boards, fe fydde fe dda bod a fforum i rhieni sy'n magu yn dwyieithog, yng Nhymru a mewn llefydd eraill.
Roeddem ni'n byw tramor fel plant hefyd, ac yn siarad Cymraeg gartref fel teulu, felly rwy'n gwybod trwy profiad personol bod e'n bosibl cadw lan yr ail iaith. Ar y foment mae'n ddiddorol iawn achos bod ds wedi dechrau dysgu bosneg yn yr ysgol meithrin. Does dim cymysgu ieithoedd hyd yn hyn ond mae ei acen wedi newud yn gyfan gwbl yng Nghymraeg a Saesneg!
Diolch am y 'feedback' am y wefan . Bu'r DH yn gweithio arno yn ofalus ers amser hir a wastod yn hapus clywed barn pobol eraill!

Siwan · 22/08/2010 22:49

Helo. Yn gobeithio mynd ar wylie gyda'r plant i Firmingham gan ei fod yn hawdd ar y y tren o Aber (ac mae'n teimlo weithie fel petai pawb o Firmingham yn dod i Aber ar wylie!) Oes rhywun isie cwrdd? Unrhyw tips am le i aros a lle i fynd?

DuelingFanjo · 22/08/2010 22:52

pam wyt ti'n wedi bumpio y thread? (sorry - welsh very rusty)

New posts on this thread. Refresh page
Swipe left for the next trending thread