Are your children’s vaccines up to date?

Set a reminder

Please or to access all these features

Parenting

For free parenting resources please check out the Early Years Alliance's Family Corner.

Cymry Cymraeg

147 replies

pixiefish · 24/11/2004 23:08

ti yna moondog? croeso i bawb

OP posts:
Are your children’s vaccines up to date?
moondog · 24/11/2004 23:11

Wedi dal hwn jyst cyn i fi droi fo off! Oes na fwy o Gymry Cymreag o gwmpas? Dwi'n gweld fod na 'Welsh Mum' ac hefyd un sydd yn son am 'deepest darkest Wales' (felly dim Cymraes dwi'n cymeryd...!)

pixiefish · 24/11/2004 23:17

dwi'n siwr bod na fwy. ti'n deud dy fod ti o dre yn wreiddiol- dy wr yn gweithio yn nhwrci- mi oeddwn i'n rysgol efo hogyn sy'n gweithio i'r eu- mi wnaeth o wneud cais i fod yn aelod seneddol- ai hwnnw di dy wr di ella?
dwi'n siwr y cawn ni jangyls ar hwn

OP posts:
mami · 24/11/2004 23:21

dim ond picio i fewn i ddeud helo, o leia ma na un bach arall di ymuno a cymry cymraeg rwan yn does!! dwi ddim am ddeud dim rhagor neu mi fyddwch yn gwybod fwy na fi!!

Interested in this thread?

Then you might like threads about this subject:

moondog · 24/11/2004 23:22

Na! Dwi'n siwr dy fod ti'n son am Guto Bebb efallai?
(Gyda llaw, dwi'n byw drws nesaf i Hywel Williams, aelod seneddol Caernarfon.Dyn neis iawn hefyd!
Mae'r dh ('ag' efallai?!) yn dod o Aberteifi yn wreiddiol.

pixiefish · 24/11/2004 23:23

Na son am Nick Bennet oeddwn i. Am faint wyt ti yn Nhwrci ta?

OP posts:
moondog · 24/11/2004 23:23

Ble wyt ti mami!?

pixiefish · 24/11/2004 23:25

... mam cymru- lawr y lon oddi wrthat ti- na'im dweud mwy ar hwn

OP posts:
moondog · 24/11/2004 23:25

Wrth cwrs-wnes i wneud gwrs gloywi Cymraeg yn nant Gwrthern efo fo blynyddoedd yn ol-dwi'n cofio fo yn sefyll yn Sir Fon-aeth o i weithio yn Belgium am hir do?

pixiefish · 24/11/2004 23:25

sori nes i'm sylwi nad efo fi oeddat yn siarad-

OP posts:
pixiefish · 24/11/2004 23:26

do ar ol coleg
byw ar sir fon rwan- llanfair dwi'n meddwl

OP posts:
pixiefish · 24/11/2004 23:26

neu dyna lle oedd o ddiwethaf

OP posts:
moondog · 24/11/2004 23:27

Na, dim problem! Yn neis bod na un arall yn ymuno ynte?!
Dwi am fod yma am o leiaf dwy flynedd arall.

pixiefish · 24/11/2004 23:30

mae mami yn byw tua 8 milltir oddi wrtha fi.
4 o blantos ac un arall ar y ffordd.
am ymuno eto medda hi
be ti'n wneud yn nhwrci ta.

OP posts:
moondog · 24/11/2004 23:36

Gwarchod plant ar hyn o bryd!
Seren yn 4 oed ac Aneirin yn 19 wythnos.
Yn cael gwers dyddiol (Twrcish) sydd yn cadw pethau yn ticio drosodd, ac wedi cael cynnig swydd yn y prifysgol (adran Saesneg) pan byddaf yn barod.
Does na NEB o lefydd eraill yma, felly pobl yn synnu i weld teulu o bedwar!!!
Ond.... y pobol mwya' cyfeillgar dwi wedi dod adraws yn fy mywyd!

Aero · 24/11/2004 23:39

Just saying 'hello' in my best Welsh accent!

pixiefish · 24/11/2004 23:41

Mam i ffrind imi di priodi twrc ac yn byw draw yno ond fwy o ardal dwristiaeth faswn i'n meddwl.
Dwi am orfod taro'r bync rwan- ma miss di mynd ers dipyn neu mi fydd hi i fyny cyn imi droi.
Braf arnot yn cael aros adref efo'r plant- dwi mewn penbleth efo petha ar y funud- tydi gweithio ddim mor 'stress free' ac yr oeddwn i'n feddwl y basa fo. na'i daro nol i hwn fory- dwi di rhoi o ar shortcut er mwyn imi gofio ei jecio yn aml. nos da rwan

OP posts:
pixiefish · 24/11/2004 23:42

Croeso iti Aero- ti'n dallt Cymraeg felly? Ti'n byw yng Nghymru ta?

OP posts:
Aero · 24/11/2004 23:43

Now I need my friend to translate!

moondog · 24/11/2004 23:44

Hello Aero-sorry about your thread (not sure on etiquette of this sort of thing and never done it before.Just so exciting to speak Welsh, especially when you are far from home!)

moondog · 24/11/2004 23:46

Breuddwydion melys Pixiefish.
Welai di eto!

Aero · 24/11/2004 23:49

You carry right on moondog - I think it's lovely to see a thread in Welsh - even if I haven't a clue what's being said. I love the sound of the language.

Aero · 24/11/2004 23:54

Right - must tear myself away to bed, so nos da to all you lovely Welsh people.

moondog · 24/11/2004 23:57

Nos da, thank you for your kind words (will keep checking your thread. Damn it, I want a make up lesson now!!)

pixiefish · 25/11/2004 19:29

mi fydd y plantos yn aml ieithog felly bydden? wel Seren beth bynnag, Aneirin braidd yn ifanc tydi. Ai hwn yw eich tro cyntaf i weithio dramor ta da chi'n mynd yn aml? o Gfon wyt ti'n wreiddiol? mi fues i'n byw yn Felin am 3 blynedd pan oeddwn yn gweithio i'r Herald yn dre

OP posts:
moondog · 26/11/2004 19:32

Yr Herald felly?! (Wedi bod yn ei ddarllen ar y we-dwi'n hoff iawn o'r hen Herald!)

Fydd Seren yn mynd i ysgol yma rhyw bryd blwyddyn nesaf. Am rwan dwi am gadw hi adref efo fi yn enwedig gan fy mod wedi bod yn gweithio tan diweddar a Wyn (gwr) wedi bod i ffwrdd. Mae hi hefyd yn mynd i Ysgol y Groeslon ac mae'r athrawes wedi rhoi gwaith i fi, felly yn gwneud dipyn bob dydd yma sydd yn hwyl!
(Dwi'n mwynhau bod adref efo nhw mwy nag oeddwn i'n disgwyl!)

Dan ni wedi bod i ffwrdd 'on & off' am chwe mlynedd, yn dechrau yn Rwsia ond gan fod Wyn yn gwneud llawer o gontracts byr,dwi wedi bod adref yn gweithio rhan mwyaf o'r sydd wedi bod yn anodd! Gret nawr i gael yr amser i wneud dim llawer o ddim byd-darllen,chwarae ar y cyfrifiadur a gwersi Twrcish.

Sut mae'r tywydd erbyn hyn? Beth sydd yn digwydd yn Nghymru? Dw'in gweld (BBC World) bod y ganolfan celf Caerdydd wedi agor heddiw.

Felly, dwi'n deall dy fod ti adref efo babi 10 mis ac am fynd yn ol(?) i ddysgu cyn bo hir?