Help protect children from gaming harms.

Take our survey

Please or to access all these features

Parenting

For free parenting resources please check out the Early Years Alliance's Family Corner.

Cymry Cymraeg

147 replies

pixiefish · 24/11/2004 23:08

ti yna moondog? croeso i bawb

OP posts:
Are your children’s vaccines up to date?
bzhmum · 02/02/2005 16:59

haia
dw i'n gwybod am brieg ar menn (a'i frodyr) ond ddim yn ei adnabod yn bersonol.
mae gen i un mab 6 mis oed - dw i'n siarad Cymraeg efo fo, ac mae ei dad yn siarad cymysgedd o gymraeg a Ffrangeg efo fo ar hyn o bryd.
rydym ill dau yn medru llydaweg, ond wedi arfer siarad ffrangeg efo'n gilydd.... ond bydd ein mab yn bendant yn mynd i ysgol lydaweg, os byddwn yn dal yma bryd hynny!
newydd siarad efo rhywun sydd wedi llwyddo i gael S4C a'r BBC efo lloeren yma, felly dw innau am sbio i mewn i'r peth er mwyn i'r mab gael gwylio rhaglenni plant yn gymraeg.
wnaethon ni gyfieithu i griw o landerne oedd ar ymweliad a chaernarfon rhyw 3 neu 4 blynedd yn ol....mae maer landerne, yann-ber tomin, wedi llunio rhyw fath o 'gynllun iaith' ar gyfer y llydaweg, a fydd yn helpu ychydig ar yr iaith, gobeithio. cafodd ei ysbrydoli gan Gymru/Caernarfon, dwi'n meddwl!

moondog · 02/02/2005 17:20

Diddorol iawn!
Ie, dwi'n nabod y maer hefyd. Wedi cael gymaint o hwyl yn croesawu y criw Landerne! Roeddwn i am fynd yno ym mis Gorffenaf ond ges i fab ar y 3ydd felly amhosib! (O beth dwi'n deall mae cafodd ei ganslo beth bynnag.)

Sut wnes to cwrdd a dy wr/cariad? Wyt ti wedi bod yn gweithio tan rwan?
Mae gen i lwyth o fideos a llyfrau Cymraeg ar gyfer y plant yma yn Nhwrci lle dwi'n byw.
Yn mynd yn ol i Gymru reil aml, sydd yn braf.
Roeddwn ni yn tyfu fynny yn siarad Cymraeg yn Zambia a PNG felly i gymharu, mae Twrci reil agos!

bzhmum · 03/02/2005 12:23

rhaid i mi ddweud, mae dy hanes di, yn siarad cymraeg efo dy dad ond saesneg efo dy fam (...ie?)
ac yn magu dy blant yn y Gymraeg, yn ysbrydoliaeth i fi! Gobeithio y gallwn ninnau gadw'r peth i fynd yn llwyddiannus...
Llydawr yw fy nghariad, cwrddon ni yn Rennes pan oeddwn i yno fel myfyrwraig yn ystod fy ngradd, dros ddeng mlynedd yn ol bellach.

byddaf yn cychwyn ar y daith yn ol i Gymru fory - croesi i weymouth a dreifio i fyny ar fy mhen fy hun efo'r mab! ddim yn edrych ymlaen at y daith, ond byddaf wrth fy modd yn gweld pawnb eto - a dagnos y babi iddynt wrth gwrs.
mae plant fy chwaer yn mynd i ysgol groeslon, gyda llaw

Interested in this thread?

Then you might like threads about this subject:

bzhmum · 03/02/2005 12:25

anghofiais ddweud - cyfieithwraig ydw i erbyn hyn, yn (trio) gweithio o'r cartref.

moondog · 03/02/2005 14:53

Byd bach ynte??!!
Wyt ti yn Llydaw ers i chdi cwrdd a dy gariad?
Mae na lawer yn magu plant trwy gyfrwng Cymraeg. Wyt ti mewn sefyllfa delfrydo yno!!
Wyt ti wedi clywed am 'Twf',cymdeithas sydd yn annog pobol i fagu plant yn ddwyieithog? Mae na wefan, hefyd llwyth o adnoddau da.
Siwrne da!! Dwi'n siwr bod pawb yn marw eisiau gweld y babi.
Dwi ar fy ffordd adref dydd Gwener nesaf,gorfod dal tri awyren ar ben fy hun efo'r plant!

pixiefish · 07/02/2005 20:36

haia a chroeso bhzmum- un o le yng ngymru wyt ti felly?

OP posts:
Juliettesmum · 16/02/2005 21:33

Helo moondog a pixiefish. Rydw i'n byw yn Iwerddon. Fi'n dod am Abergwaun, yn Ghyfed. Symido fi ma 6 flwyddyn y nol ac fi wedi anghofio lot o gymraeg. Rwy'n defnyddio'r geiryadur!
Sori am gwythio mewn i eich siarad, ond rwy'n hoffi siarad cymraeg a dydw i ddim yn gallu siarad i un rhyw un. Dyma'r rheswm dw'i ddim yn siarad cymraeg yn dda fel i'n eisiau!
y mae gennyf i un ferch. Mae hi'n 9 mis oed.
Os wyt ti'n moen frind newydd, dyma fi!

moondog · 17/02/2005 22:29

Helo Juliettesmum!!
Braf i gael un newydd. Croeso!!
Newydd dod yn ol i Gymru (Dydd Sul) ar ol 7 wythnos yn Nhwrci. Mor braf i fod yn ol!!!
Dwi'n mynd i Abergwaun dipyn. Mae'r gwr o Aberteifi.

moondog · 17/02/2005 22:30

Dwi'n siwr dy fod ti heb anghofio dy Gymraeg! Mater o ymarfer,dyna'r cwbl!!

Juliettesmum · 20/02/2005 18:53

Gobaith ti wedi cael hwyl yn nhwrci.
Mae dd yma yn yr stafell gyda fi. Mae hi'n tyni'r llyfrau mas ar y llawr. Dwy'i ddim yn cael pump mynydd i fy hun! Mae hi'n mewn y troi'r ty wyneb i wared agwedd!
Diolch am creso fi i'ch "culch".
Siarad i ti yn gynnar.

pixiefish · 22/02/2005 22:05

Juliettesmum- newydd ffendio hwn eto- helo a chroeso. Moondog- ydw- dwi'n gyfarwydd efo'r ty ti'n son amdano fo

OP posts:
moondog · 23/02/2005 09:40

Pixie !!!
Byd bach ynte??

sandycheeks · 23/02/2005 11:54

Aelod newydd yn dymuno dweud helo i bawb yn Gymraeg!!
Newydd ddod ar draws yr we fan arbennig yma ar hap (ron i'n chwilio am wybodaetha am eczema ar y we)
Mae gen i ddau o blant, merch sy'n 3 oed, a mab sy'n 8 mis. Mae'r bychan yn diodda'n ofnadwy hefo'r bali eczema yma.
Dwi'n byw yn sir Feirionnydd gyda fy ngwr a'r plant

pixiefish · 23/02/2005 12:49

hai sandycheeks. mae gen i ferch fach sy'n diodde o ecsema hefyd. blwydd yw hi- mae o rili yn afiach o beth tydi- mae o'n cadw dd ar ddihun yn aml.

moondeg-mi ges i fy magu rownd y gornel o fano- wel, dau bentre i ffwrdd- yn y pentre lle mae'r dafarn y canodd y beach boys amdano (winc)

OP posts:
sandycheeks · 23/02/2005 15:16

Diolch am y croeso Pixiefish. Ma'n gysur gwybod fod mamau eraill yn dod ar draws yr un problemau a fi

bzhmum · 24/02/2005 12:54

helo gyd-gymry
wedi cyrraedd yn ol ar ol pythefnos yng ngwlad y gan - cyrhaeddais Gaerdydd mewn pryd i weld y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr - o'n i wedi anghofio faint o grefydd ydy rygbi yno! gobeithio y curwn ni'r ffrancwyr ddydd sadwrn ynde
derbyniais 10 dvd cymraeg trwy'r post y bore ma gan ffrind sy'n gweithio i gwmni cyhoeddi - gret!
heb lwyddo i'w gwylio ar ein peiriant eto, fodd bynnag - ddim yn siwr os yw peiriannau ffrengig yn gallu darllen dvd's cymraeg.....
hefyd, cefais hyd i hen lyfrau mr men cymraeg o'm plentyndod - mae nhw'n wych - oes unrhyw un yn gwybod os ydyn nhw'n dal art gael yn gymraeg?

moondog · 17/03/2005 22:26

Ydyn bzhmum,mae gan i lwyth!!!

bethski · 25/03/2005 12:57

Helo! Newydd ymuno â MN ac yn meddwl ei fod yn ffantastig. Mae gen i 2 o blant, sef fy llysfab Oliver (8) a Gwion Rhys (2 ym mis Mai).

moondog · 25/03/2005 13:47

Haia bethski
Wyt ti'n obsessed efo MN yn barod felly??!
Ble wyt ti?

bethski · 25/03/2005 16:21

LLanbedr PS - beth amdanat ti?
Obsessed???? Diolch byth mod i ar wyliau nawr am bythefnos neu bydden i'n cael y sac am fod ar y wê trwy'r amser!!!

pixiefish · 25/03/2005 16:43

haia bethski.

OP posts:
moondog · 25/03/2005 20:57

Groeslon,ger Caernarfon

New posts on this thread. Refresh page