Are your children’s vaccines up to date?

Set a reminder

Please or to access all these features

Parenting

For free parenting resources please check out the Early Years Alliance's Family Corner.

Cymry Cymraeg

147 replies

pixiefish · 24/11/2004 23:08

ti yna moondog? croeso i bawb

OP posts:
Are your children’s vaccines up to date?
pixiefish · 27/11/2004 09:48

Dwi yn f'ol 2 ddiwrnod yr wsos ond ddim yn hapus iawn. Mam sy'n gwarchod ond mae hi'n anodd. Be oeddet ti'n wneud cyn iti fynd i Dwrci- oeddet yn gweithio tu allan i'r cartref ta mam llawn amser?
Handi dy fod wedi cael gwaith i Seren- er, yn y brifysgol oeddet ti'n gweithio ie- gweld prifysgol Twrci di cynnig gwaith iti? ti'n fwy na abal i'w haddysgu yn dwyt?
Mae eira ar Eryri bellach ers rhyw wythnos ac mae Mon yn wlyb ac yn oer- tywydd arferol ynde . Canolfan y mileniwm yn agor dros y penwythnos.
be ti'n wneud efo dvd's Cymraeg i'r plant? oes gen ti rai- mae na 2 newydd asllan dolig ma- dvd mawr y dolig a rala rwdins. braidd yn ifanc i seren ma siwr a rhy hen i aneirin am chydig.

OP posts:
moondog · 27/11/2004 10:01

Sut mae Pixiefish!
Diolch am y wybodaeth am y fideos-mae Seren yn dal i fwynhau yr Hen Fideo Mawr Nadolig, felly dwi'n siwr am brynu'r un newydd iddi.
Mae gennon ni lot o lyfrau a fideos Cymraeg yma-wnes i brynu gymaint yn y siop Cymraeg ym Mangor y tro diwethaf, wnaeth y ddynes yn y siop gofyn
'Dach chi'n prynu ar rhan ysgol?'!

Therapydd iaith a lleferydd ydw i adref, efo pobl ac anabledd dysgu (Arfon a Dwyfor). Dwi yn defnyddio enw arall ar hwn i siarad am SALT, er mwyn gwneud yn siwr fy mod yn cael rhoi barn honest heb poeni!!

Bwrw eira yn uffernol eto heddiw-roeddwn ni am fynd allan i'r amgueddfa a wedyn am bryd o fwyd ond dim gobaith rwan!!

Dim ots-mae hi'n gynnes neis yn y fflat ac mae copi o'r 'Telegraph' Dydd Sadwrn (bythefnos yn ol!) newydd cyraedd-hwre!!

pixiefish · 27/11/2004 15:27

mae merch o langefni yn salt ochra gfon neu ella ochre dinbych mae hi- yr un enw a beth ti'n ganu dolig- 2 o hogia ganddi,

dwi di bod yn prynu pethe cymraeg o'r siop yn llandudno- na nog- siop braf a mae peiriant switch yno

OP posts:

Interested in this thread?

Then you might like threads about this subject:

moondog · 27/11/2004 15:51

Ie, dwi'n nabod hi yn dda iawn!! (Mae gennon ni swyddfeydd yn yr un adeilad yn Gaernarfon.)
Wnaeth o gymeryd oes i fi weithio allan enw hi!
Ymenydd yn 'mush' ers i fi gael Aneirin. Hefyd o'n i ddim yn siwr 'ta Saesneg neu Cymraeg!

Dal i fwrw eira. Wyn a Seren wedi bod allan i wneud dyn eira-cymdogion i gyd yn edrych arnynt.
Dim yn meddwl bod nhw'n gwneud y fath peth yma!

pixiefish · 27/11/2004 16:00

merch annwyl ofnadwy- mi oeddwn yn yr ysgol efo hi er ei bod hi flwyddyn yn iau na fi. nabod ei mam a'i chwaer yn dda hefyd- teulu clen ofnadwy- byth yn gwneud tro drwg a neb ac mae'r ferch sy'n gweithio efo ti run fath.

OP posts:
tiptopoftheChristmastree · 02/12/2004 23:18

Dwi eisiau dweud helo ond dwi ddim yn siarad Cymraeg yn dda iawn! Esgusodoch y camgymeriad! Dwi'n dod o Dde Cymru (ger Castell Nedd) yn wreiddiol. Fy dh yn dod o'r Gogledd. Dwi'n gael un ds (11 oed) ac un dd (9 oed). Dwi wedi bod i'r dosbarth Cymraeg ond nawr dwi wedi gael ME. Popeth bydd ar y "back burner"! Cymraeg yw'r iaeth rhwng dh ac y plentyn. Dwi yn dysgu am gwrando i nhw. Ond dd yn casau fi yn trio siarad Cymraeg. Fi yn siarad fel babi dweud dd! Dwi'n meddwl mae hi yn iawn! Nhw yn dod i'r ysgol iaeth Cymraeg. Bydd ds yn mynd i'r ysgol Gymraeg (secondary) mis Medi blwyddyn nesa, gobeithio. Mae'r dewis trw'r ysgol Gymraeg ac ysgol Saesneg. Mae e'n licio yr un Gymraeg. Mis diweddaf ni wedi mynd i weld e. Unwaith eto, mae flin da fi am fy Gymreag! Dwi'n licio y thread achos dwi'n eisiau trio i siarad Cymraeg mwy gyda ffrindiau! Diolch am darllen!

SantaClausfrau · 03/12/2004 10:27

This reply has been deleted

Message withdrawn at poster's request.

moondog · 03/12/2004 10:33

Bore da toptop!
Wyt ti'n gwneud yn dda iawn efo'r Cymraeg-chwarae teg i chdi. Fydd o'n haws fel mae amser yn mynd ymlaen!
Dyle ti wneud cais am 'Cariad@iaith'-wyt ti'n gwybod am y rhaglen?!

Bore da santaclausfrau!
Dwi yn byw yn Nhwrci (Turkey efo 'mutations') ond yn siarad Cymraef efo dd a dh. Yn ol i Gymru mewn bythefnos. Methu disgwyl!
Beth wyt ti'n gwneud yn yr Almaen?

tiptopoftheChristmastree · 03/12/2004 10:33

Sut mae, Bron! Mae rhaid i mi fynd i gwneud gwaith cartref nawr, ond bydd i yn mynd yn nol nes ymlaen! Hwyl!

moondog · 03/12/2004 10:36

Pa waith cartref?
Cymraeg dwi'n gobeithio!
Wyt ti eisiau cymorth?

pixiefish · 03/12/2004 10:50

wahey- dwy arall- ffantastic- hei rhyw help da chi isio gadewch ini wybod.
Moondog- ti'n ol yn dre dros Dolig?
tiptop- paid a phoeni am wallau- y peth pwysig yw dy fod yn trio- mae hynny'n bwysicach na dim.
O lle mae dy wr yn dod tiptop- Gogleddwr fatha moondog a minne- lle yn y gogledd- ella ein bod yn ei adnabod- doniol fasa hynna te.

OP posts:
welshmum · 03/12/2004 10:53

Bore da Pixiefish, moondog a pawb arall, yr wyf yn siarad cymraeg well na sgwenu - dwi'n dallt pob gair. Dwi'n byw yn Llundain nawr ond eisiau mynd yn ol i fyw yn y Gogledd.
Sori am y Cymraeg maen 'pretty dreadful!' Dw'i eisiau mynd yn ol adraf i gwneud yn swr bod y babis yn dysgu'r iaith - a finnau hefyd eto- revision necessary!

pixiefish · 03/12/2004 10:54

o le yn y gogledd wyt ti welshmum? Tyrd adref i fagu dy blantos yn Gymry

OP posts:
welshmum · 03/12/2004 10:58

O Llangolen ac wedyn Llandudno - ond dw'i wedi byw yn Llundain es blynyddoedd. Mae'r gwr yn dod or Zealand Newydd - mae o eisio fynd yn ol. No chance! Be di 'no chance yn gymraeg - dw'i wedi anghofio (Esgusodoch y camgymeriad)

moondog · 03/12/2004 12:47

dim gobaith welshmum!
Hey, mae na ysgol Cymraeg yn llundain yndoes?
Aeth plant Dafydd Ellis Thomas yno.
Ble yn union yn Llandudno?
Wedi gwario llawer o amser yno (roedd y ddwy Nain yn byw fanna-un yn Craig y Don ac yn yn St David's Road.
Wedi bod yn barmaid yn y Washington ac hefyd y Royal Oak (cyn i ni gael 'drugs raid' ac wedyn yn cae i lawr!!)
Ie, adref cyn bo hir Pixiefish a wedyn syth allan am sesh o gwmpas Caernarfon!
Weeeh Hey!!!

welshmum · 03/12/2004 12:58

Mae na ysgol cymraeg, ond mae o yn Willesden Green, dy n'in byw yn Holloway - dw'i ddim eisio mynd ar y tube pob dydd efo hi - mae on rhy... damn, dw'i wed anghofio'r gair...packed(!). Oeddwyn n'in byw yn ymyl y dref ac wedyn ar y West Shore. Roeddwyn ni'n mynd i'r Cottage Loaf a Kings Head. Mae genni modryb yn Caernarfon - wy ti'n byw yno Moondog?

tiptopoftheChristmastree · 03/12/2004 19:10

moondog - Sut mae! Gwaith cartref yw gair anghywir. Ydy gwaith ty yn cywir? Glanhau, etc? Dwi ddim yn dod i'r dosbarth Cymraeg ar hyn o bryd. Pan fy dad fi yn fyw, dwi wedi edrych am S4C ond dim nawr. Rhy drist efallai.
Dwi'n licio Llandudno. Dwi wedi byw yn Llanrwst pan y plant yn bach.

pixiefish - Fy gwr fi yn dod o'r Sir Fon. Bydd ni yn aros adref am Nadolig ac yn y Gogledd gyda teulu gwr am y Blwyddyn Newydd.

welshmum - Dy Cymraeg ti ddim yn anobeithiol, dwi'n meddwl. Dwi ddim yn deall pob gair. Ti yn! Dim ond un gair pob 5! Dwi ddim yn dda am dysgu iaeth arall.

Unwaith eto, sori am fy Cymraeg!

pixiefish · 03/12/2004 22:01

tiptop- dwi'n byw yn fano hefyd- o ba ran o'r ynys mae o'n dod- duw byd bychan te.
welshmum- mi oeddwn i yn llandudno yn siopa ddoe- mi oedd hi'n anobeithiol o brysur- pawb yn gwthio- afiach efo pram.
Mi oeddwn i yng Nghanolfan Victoria pan oedd dd yn fabi bach a mi aeth y larwm tan i ffwrdd- mi oeddwn i yn meddwl bod na fom neu rhywbeth am bod y ffans yn y to yn gwneud cymaint o swn. Eniwe mi ges i banic attack bach- jest gwthio dd allan yn bwyllog a dal i gerdded nes oeddwn i wrth ymyl KFC. roedd fy ngwr yn meddwl mod i'n dw lal. Beth bynnag ychydig fisoedd wedyn mi oedd yna 'armed raid' ar y gemydd yno. Dwi ddim yn hoff iawn o'r lle ers hynny i ddweud y gwir. Yn Asda ddoe mi oedd na ddnes yn gwyro drostaf i yn y ciw caffi- ceisio ystyn popeth drostaf i a minne yn ceisio gwthio pram! Mi ddudodd y ddynes wrth y til bod modd imi gael bwyd i'r babi am ddim- mi ddudis inne mewn llais eithaf uchel nad oedd rhai pobl yn gallu disgwyl fel oedd hi- mi afaelodd dynes y til yn fy nhre i a dweud let them wait a martsio fi at fwrdd cyn gwneud yn siwr fy mod i'n oce. Dwi wir ddim yn hoffi llandudno na Gaer amser dolig fel hyn

OP posts:
tiptopoftheChristmastree · 04/12/2004 11:43

pixiefish - Mae e'n dod o A--wch. Mae rhaid i fi mynd. Amser bwyd!

pixiefish · 04/12/2004 14:24

o fano mae fy ngwr inne'n dod- a mi fydda i yno ddwywaith yr wythnos- dwi'n byw 12 milltir o fano. Byd bychan te- ella bod ein gwyr yn rysgol efo'i gilydd! Mi oeddwn i'n ffrindia efo lot o bobl o'r ardal yna stalwm hefyd

OP posts:
ItllBeLonelymumThisChristmas · 04/12/2004 15:10

Can I interrupt this and ask you wonderful Welsh speakers what is the Welsh word (and pronunciation!) for mouse? I do have a reason for asking which I will disclose if I get an answer.

moondog · 04/12/2004 15:55

llygoden lonely mum!
teyll us why-dying to know
pixiefish-'armed raid' yn y Ganolfan Victoria!!!
Bydd yn cofio Llandundno mor bywiog erstalwm

moondog · 04/12/2004 15:56

Pronunciation
ll uh god en

ItllBeLonelymumThisChristmas · 04/12/2004 16:56

Ok, when I was about 8, we had a holiday in Snowdonia and I bought a small toy mouse. My mother had the bright idea of naming it the Welsh for mouse so we duly asked someone in a shop what that word was. By the time we got back to the caravan, we had forgotten exactly what she said but named the mouse as nearly as we could after the Welsh for mouse. I have often wondered how close we were. Now 32 years later, I know.

moondog · 04/12/2004 17:01

What a sweet story!
(And how close were you,and is the mouse in question still with us today?!)