Are your children’s vaccines up to date?

Set a reminder

Please or to access all these features

Parenting

For free parenting resources please check out the Early Years Alliance's Family Corner.

Cymry Cymraeg

147 replies

pixiefish · 24/11/2004 23:08

ti yna moondog? croeso i bawb

OP posts:
Are your children’s vaccines up to date?
moondog · 07/12/2004 20:14

Ie, fuasa'r gwr wrth ei fodd!!

Dwi wrth fy modd efo'r bwrdd gwyn-mae na un yn yr ysgol arbennig ger Pwllheli ers dipyn-plant wedi gwirioni efo fo!
Yn marw eisiau mynd adref rwan.....hiraeth ofnadwy heno.....

Wyt ti'n dysgu rhan amser felly, ges i'r argraff dy fod ti ar absenoldeb mamolaeth?!

pixiefish · 07/12/2004 20:29

dwi'n ol dau ddiwrnod yr wythnos ers mis medi- ac yn anhapus ofnadwy efo lot fawr o betha yno.
Mae na fyrddau gwyn rhyngweithiol yn yr ysgol- 18 ohonynt ond yn anffodus nid oes gen i un yn fystafell i- llai o siawns rwan hefyd am fy mod yn gwneud 'jobshare'. Mae yna laptop imi ond mi oedd rhaid imi ei rannu o efo'r ferch arall. am resymau i wneud efo cyfrifoldeb mi ddudis i nag oeddwn i eisiau ei rannu o ac am fy mod ddim eisiau bod yn 'having' mi ddudis i y basa'r ferch arall yn ei gael o. mae newidiadau mawr yn yr adran ar ol dolig- y ferch oedd yn gwneud y jobshare efo fi yn symud i wneud swydd llawn amser dau dymor am bod merch arall yn gadael. Methu cael neb i wneud y 3 diwrnod arall gyferbyn a fi ar y funud- petha'm yn edrych yn dda iawn yma i ddeud y gwir.

OP posts:
moondog · 07/12/2004 20:36

Sori i glywed dy fod ti'n poeni am dy waith-un o anfanteision o fod yn athrawes ynte, efo'r gofyn am bobol llawn amser.

Mae rhaid dweud ein bod ni (y therapyddion) yn lwcus dros ben. Gan fod na ddim digon ohonom, dan ni'n cael cymeryd amser i ffwrdd ac wedyn dod yn-ol.
Llawer o bobol wedi gwneud fathe fi a mynd i ffwrdd am gyfnod o flwyddyn neu mwy a wedyn dod yn ol.
Ond...yr anfantais yw bod y rhestr aros yn anhygoel! Yn cofio yr hogan yr oedd yn gyfrifol am glinig Amlwch yn cael 'palpitations' drwg bob tro oedd hi'n agor y filing cabinet!!!

Interested in this thread?

Then you might like threads about this subject:

pixiefish · 07/12/2004 20:42

Natur yr ysgol ydi o yn fwy na bod yn rhan amser dwi'n meddwl- yn ddaearyddol o anodd i gael staff gan ein bod yn eitha pell o lefydd sydd yn dda i fyw os ti'n gweld be sydd gen i. Ysgol eitha anodd i ddysgu ynddi- staff yn troi drosodd yn anhygoel o sydyn- tua 20% ydi'r 'norm' acw- eitha brawychus. Dwi jest a torri mol eisiau mynd ono- di deud wrth y pennaeth adran y bydd hi'n chwilio am 2 aelod o staff mis medi y ffordd dwi'n teimlo rwan

OP posts:
tiptopoftheChristmastree · 08/12/2004 22:33

Sut mae, pawb?

moondog · 08/12/2004 22:45

Iawn diolch-wyt ti ddim yn dy wely eto felly?f

pixiefish · 08/12/2004 22:48

dwi'm di cael y cat eto tiptop- tria yrru i thepixiefish at yahoo dot co dot uk. teipio yn y tywyllwch yn famw- wyneb dd yn ddrwg efo eczema heno ac mae hi'n deffro bob tro dwi'n ei rhoi i lawr felly mae hi'n cysgu'n sownd ar fy nglin- tan dwi'n mynd i'r gwely, i mewn efo fi fydd hi eto. sori os dwi'n ara yn teipio- un law a thywyllwch- mond gole o'r monitor sydd gen i

OP posts:
moondog · 08/12/2004 22:53

Wyt ti'n gwneud yn well na fi Pixiefish-tri toriad trydan heddiw yn barod. Blydi niwsans,yn digwydd bob dydd!
(Gobeithio y bydd hi'n well fory. Bechod!!)

pixiefish · 08/12/2004 22:55

dannedd yn ei wneud yn waeth- mabi gwyn i- mae hi'n dioddef- mae'r ddwy ohonom ar ddeiet dairy free ers mis bellach i drio ei stopio fo. mae o'n bendant yn well ond tydio ddim wedi mynd o bell ffordd ond o leiaf dio ddim mor ddrwg

OP posts:
moondog · 08/12/2004 23:01

Ahhhhhhhh! Swsus XXXXXXX

pixiefish · 12/12/2004 21:30

ti'n cofio'r teulu o'r sgwrs neithiwr? wel, y joc ydi i fod o di bod yn y carchar am ddwyn gan y wlad. mae nhw'n byw oddi ar gefn y wlad rwan hefyd.
di wedi stopio bwrw eira bellach ta moondog? iti gael dod adref i Gymru fach.
dd di flippin deffro eto felly dwi'n teipio o olau'r monitor efo un law gan mod i'nm bwydo dd i gysgu- camgymeriad dwi'n gwybod ond mae o'r unig beth ala i wneud.
ti di cael dy ginio eto- sut aeth o?
sut ma pethe yn y de ta tiptop- ti'n cadw'n oce? sgin ti rywun adre i gyfieithu heno? Grin

OP posts:
moondog · 12/12/2004 22:02

Ti'n gwybod beth?? O'n i'n gallu dychmygu yn UNION sut fase nhw!! Diawlad!!
Yn mynd i holi y therapyddion sydd yn gweithio yn Sir Fon :)
Wnes i ddweud wrth dh-methu coelio fo chwaith!
Dwi'n synnu bod yr ysgol yn mynd efo eu dymuniad i gael yr enw 'swyddogol' ar pethau.
Dyle bod y prifathro/athrawes wedi chwerthyn yn eu gwynebau.

Wnaeth hi ail-ddechrau bwrw eira neithiwr, o 8 tan tua 7 yn y bore!! Mae tua 12 cm wedi disgyn.
Yn poeni rwan am gallu mynd ar dydd Sadwrn, ond dwi'n siwr bydd o'n iawn-mae'r haul yn sgleinio ac mae'r awyr yn las bob dydd!
Wyt ti'n gweithio mewn ysgol uwchradd felly-dwi'n gael yr argraff dy fod ti ddim yn hoff o dy waith o gwbl.

Sut mae'r excema bychain heno?

pixiefish · 12/12/2004 22:07

mae'r tad wedi siwio'r ysgol cyn heddiw ac mae'r prif ei ofn e. mae'r peth yn hollol chwerthinllyd ac yn gwneud i'n ngwaed i ferwi. un o'r plant wedi ceisio pasio rhywbeth oddi ar y we fel ei waith o'i hun ac er bod yr athro efo'r union draethawd (run fath cofia comma am gomma ayyb) mi aeth y tad a ni i gyfraith a gyrru llythyr twrna yn cyhuddo bob mathe o betha (twrna rel ffwl hefyd yn toedd#)

OP posts:
pixiefish · 12/12/2004 22:08

gwaith cwrs tgau- dim gwaith cartref di nod oedd o- roedd hyn yn hollol ddifrifol

OP posts:
moondog · 12/12/2004 22:15

Well, ddyle bod y prifathro DIM ofn pobol fel hyn-geiriau yw rhain a dim byd arall. Os faswn i wedi cael punt am bob tro mae rhyw fwl wedi dweud 'I'll sue your department....'
Gwarthus te, dyle bod y llywodraethwyr yn rhoi mwy o gefnogaeth i'r dyn.

Yn atgoffa fi o un rhiant (Ysgol Arbennig) yn dweud cyn trip ysgol 'Can you tell me who I need to sue if things go wrong?'
Dywedodd y prifathrawes 'We haven't even gone yet' ac yr ymateb oedd 'Just in case'

Am rhyw rheswm, mae Gogledd Cymru yn tynu pobol fel rhain.
The stories I could tell...(ond dim yma :))

pixiefish · 12/12/2004 22:27

dwi'n gwybod- anodd deud stori heb roi gormod i ffwrdd tydi.
bechod na sa'r brifathrawes di cael deud wrth y rhiant nad oeddd croeso ar y trip os na dyna agwedd y rhiant te.
da ni'n cael y social exclusions i gyd o ochr arall y ddau dwnel mawr na efo toll arnynt. cynghore yna'n talu i'r cynghore yma gymryd y problema- yn ol y son. ti'n gwybod bod un o'r llofruddion nath lofruddio y bachgen dwyflwydd ochr arall y twnele efo toll na- di bod yn dod i dy rownd y gornel o fama ar ei wylie pan oedd o yn y carchar

OP posts:
moondog · 12/12/2004 22:29

Shock Shock Shock
Mae o'n 'common knowledge' felly?

moondog · 12/12/2004 22:30

Cymraeg yn ddefnyddiol tydi!!!

pixiefish · 12/12/2004 22:34

defnyddiol ar y naw. beth yn common knowledge- am y cynghore, y llofruddion ta ein arglwyddi

OP posts:
moondog · 12/12/2004 22:36

Y llofruddion

pixiefish · 12/12/2004 22:40

mi fuodd teulu un ohonynt yn byw ym mlaenau yn ol y son. bob mathe o betha yn dod i aros i'r ty ma sydd round y gornol- rhyw dy gwylie i blant drwg ydi o

OP posts:
moondog · 12/12/2004 22:44

O ie, mae na un o rhain yn Y B---a.
Dipyn o 'moral dilemma' tydi?
Fedri di ddim cosbi pobol am byth ond eto, wyt ti eisiau nhw yn agos i dy deulu di?

pixiefish · 12/12/2004 22:46

LLe? methu weithio fo allan Y ?. cliw arall

OP posts:
moondog · 12/12/2004 22:48

Iawn, jyst B--a felly (is na fi yn Y Groeslon. Neu Groeslon. Rhai yn defnyddio 'y' rhai ddim. Wyt ti efo fi rwan?!)

pixiefish · 12/12/2004 22:48

yr unig le fedra i feddwl ydi ddim yn bell o gartref syr emrys

OP posts: