Are your children’s vaccines up to date?

Set a reminder

Please or to access all these features

Parenting

For free parenting resources please check out the Early Years Alliance's Family Corner.

I'm calling the Welsh too...

133 replies

flamesparrow · 17/03/2005 22:28

My DP is Welsh, but only knows a handful of phrases... but I know that there are a couple he would to know.

Would someone be so kind as to tell me how to say (and write)

"I love you"
"Good Girl"
"Well Done"

Thankyou oodles. Thankyou and disgusting are about the extent of my knowledge!!! Ooh, and "big pit"... the joys of road signs...

OP posts:
Are your children’s vaccines up to date?
Hausfrau · 23/04/2005 20:37

This reply has been deleted

Message withdrawn at poster's request.

happymerryberries · 23/04/2005 20:43

Calon Lan

Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau man,
Gofyn rwyf am galon hapus,
Calon onest, calon lan

Chorus
Calon lan yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos,
Does ond calon lan all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos

Pe dymunwn olud bydol,
Chwim adenydd iddo sydd:
Golud calon lan rinweddol
Yn dwyn bythol elw fydd

Chorus

Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd can
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi imi galon lan

Chorus

Sang it in my aunts funeral week before last. Not a dry eye. She would have loved it

Hausfrau · 23/04/2005 20:57

This reply has been deleted

Message withdrawn at poster's request.

Interested in this thread?

Then you might like threads about this subject:

happymerryberries · 23/04/2005 21:04

Funny you should mention that. She planned it all. And had Treorci Male voice recording of Myfanwi (family connections with Treorci that made this even more blub worthy). She was 85 and had led a full life and we saw her out in good Welsh style, crying like babies and laughing like idiots!

Interestingly she once visited me in the Midlands. Look her and dd into a book shop and there was a rocking horse in there. dd got on the horse and Aunt rocked her, singing in Welsh. I turned to the sales assistant to see her in floods of tears. It came out that her Nan was Welsh and had sang the same song to her when she was a child. We all had a damn good cry.....must be the Celtic Genes!

Hausfrau · 23/04/2005 22:18

This reply has been deleted

Message withdrawn at poster's request.

moondog · 23/04/2005 22:26

Bugger hmb!!
I drone bits of it but not sure of all the words. Dh just gone to bed or I'd ask him.
Hang on, I'll ask him tomorrow when he comes round and let you know.
Iawn?

Calon lan for a funeral eh? We had it for my sister's wedding. Great number. Hen Wlad fy Nhadau gets me going every time....

moondog · 23/04/2005 22:30

Sandycheeks...aeth y sesiynau yn dda iawn. Hefyd y bedydd gobeithio.
Dwi'n gwneud cyfres ohonynt yn mis Gorffenaf efo telynores. Mae o'n lyfli ac roedd y babanod wedi gwirioni!!

Gwenynbee (enw gret!!!)..dos at wefan Twf (www.twf.co.uk efallai??) am lawer o wybodaeth ar sut i fagu plentyn yn ddwyieithog yn enwedig tu allan i Gymru.

pixiefish · 23/04/2005 22:32

Mae bys Meri-Ann wedi brifo,
A Dafydd y gwas ddim yn iach.
Mae'r baban yn y crid yn crio,
A'r gath wedi scrapo Joni bach.
Sosban fach yn berwi ar y tân,
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
A'r gath wedi scrapo Joni bach

Dai bach yn sowldiwr, Dai bach yn sowldiwr,
Dai bach yn sowldiwr, a gwt ei grys e mas

Mae bys Mari Ann wedi gwella,
A Dafydd y gwas yn ei fedd;
Mae'r baban yn y crud wedi tyfu,
A'r gath wedi huno mewn hedd.
Sospan fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi huno mewn hedd

Hwn oeddet ti isio Hausfrau?

Croeso gwenynbee

Moondog- sori am y therapi cerdd- mi ges i a dd ffliw dros pasg- flipin hunllef

moondog · 23/04/2005 22:35

Ha HA!!! Dyma'r hogan sy'n gwybod popeth!!!
Duw, paid a poeni pf!!! Wyt ti'n well? Rhwng chdi a dd, wyt ti wedi bod trwy dipyn o gyfnod yn ddiweddar do?
Sut mae pethau..gwaith, dd,Ynys Mon ac yn y blaen??

pixiefish · 23/04/2005 22:40

crap moondog.

Di cael gwared ar y ffliw a di dechra efo dos o anwyd rwan- y ddwy ohonom.

mam wedi ei chymryd yn wael- wedi cael 'turn' gobeithio ma stress dio a dim byd mwy difrifol.

Ma hi am orfeod stopio edrych ar ol dd ac am fy mod i yn gwrthod ei rhoi mewn meithrinfa neu hefo gwarchodwraig yna ma rhaid imi orffen gweithio. Gan mai athrawes ydw i dwi'n gorfod gweithio tan yr haf- 12 wsos- ma'r gwr am wneud 1/2 dyddie a mam am drio yr hanner arall (dim ond 2 ddiwrnod dwi'n gweithio)

Mae'r poen meddwl yn fy ngwneud yn eitha sal- ma ots gin i orfod stopio gweithio ond mond am fy mod i'n mynd i golli'r arian i ddweud y gwir. gobeithio y cai rhywbeth arall pan dwi'n barod i fynd nol- dwi'n siwr y cai.

Dwi am wneud ambell ddiwrnod o gyflenwi ac addysgu adref (gyda'r nos) yn y cyfamser.

moondog · 23/04/2005 22:50

PF....
Pam wyt ti'mn cymeryd gymaint yn erbyn gofal plant??
Mae fy ffrind (a chydweithiwr) newydd agor meithrinfa yn LlanfairPG. Mae hi'n lyfli.
Aeth dd i un tu allan i G'fon am tair blynedd (beudy ar fferm wedi ei addasu. Roedd hi'n hapus iawn. mae pethau fel hyn yn llawer mwy personol yn ardal ni, dwi'n teiml. O'n i'n nabod hanner y staff cyn iddi ddechrau.

pixiefish · 23/04/2005 22:55

Fedra'i ddim...

Mae'r feithrinfa yma ar stad ddiwydiannol- faswn i ddim yn ymddiried yn neb i edrych ar ei hol yn iawn. Dwi'n gwbod bod lot o bobl yn gwneud ond fedra i ddim

moondog · 23/04/2005 23:01

Digon deg. Mae rhaid i fi ddweud fy mod i'n teimlo r'un fath ers i mi stopio gweithio. Mae o'n anodd i fod adref efo dau ohonynt, ond dwi'n falch amdano.
Mae na ddigon o waith llanw beth bynnag 'toes ac y tal yn dda.

gwenynbee · 24/04/2005 00:16

Diolch i chi gyd am y croeso cynnes, a diolch am y link moondog - mi a'i yna am gip olwg ar ol sgwennu hwn. Mi gefais i gyfle i gael profiad gwaith hefo Therapydd Cerdd Cyngor Gwynedd gynt, tra roeddwn i yn r'ysgol blynyddoedd maith yn ol!

Mwyaf diddorol! Dwi'n cofio disgyn i gysgu mewn sesiwn mewn canolfan plant gyda anghenion arbennig ym Mangor! Roedd o mor braf! Mi wnes i wneud dipyn o waith yn Ysbyty Gwynedd hefo grwp o gerddorion eraill, ac wedi bod ar gwrs byr yn Nordoff Robbins yn Llundain. Tydi'r Saeson lle dwi'n byw ddim yn mynd am betha creadigol fel hyn sydd yn biti calon - mi fuaswn i wrth fy modd gwneud rhywbeth tebyg!

Happymerryberries - I saw the Treorci Male Voice Choir last year, and it was lovely to see so many Welsh people under one roof (I too live in the Midlands).

Gobeithio fod hwyl no lew ar bawb

gwenynbee · 24/04/2005 00:26

Newydd fod yn twfcymru.com - syniadau gwych. Diolch Mi fydd y babi yma yn ddwy-iaethog! (Er fod fy sgwennu Cymraeg i yn warthus!!) Oes rhywun yn gwybod os ydi'n bosib cael CD Sasi Rees? (Mae gyno fi dapia Edward yn barod ond well gyno fi'r rhen Sasi!!)

moondog · 24/04/2005 21:12

Diar mi (cysgu yn y Canolfan datblygu Plant!!) Sesiwn diddorol felly??!! Wedi gwneud lot o waith fan'na!!

Sasi Rees!!?? Mae dad wastad yn son am Sasi Rees!
Wnai holi ok??!
Braf bod twf wedi bod yn ddefnyddiol. Dim yn gweld trafferth efo magu plant yn ddwyieithog tu allan i Gymru o gwbl. Wedi cael y profiad fy hun fel plentyn (PNG a Zambia) ac yn gwneud yr un peth efo fy mhlant yma yn Nhwrci (rhag ofn bod ti heb ddarllen y 'thread' i gyd.)

gwenynbee · 24/04/2005 22:07

Mae gyn dy dad tast gret moondog! Peryg dy fod titha yn cofio clasuron gret fel, "Tasa gennyf ful bach a hwnnw cau mynd" a "Mae naw carafan wedi dod i'r dref - fa la la la la la!" LOL! Sasi Rees di'r gora! Mae gyno fi dap o hen LP, ond tydi'r safon ddim rhy wych! :0

Dwi'n "well impressed" dy fod yn gallu magu dy blant yng Ngymraeg dramor! "Wel dyn" chdi! x

moondog · 24/04/2005 22:24

A gobeithio y fyddi di yn un ohonom hefyd cyn bo hir!!

pixiefish · 24/04/2005 22:33

Rhag ei gywilydd tydi dh ddim yn siarad Cymraeg- er ei fod yn byw yma ers iddo fod tua 7- gadawodd i fynd i'r llu awyr pan oedd o'n 16 ac mi oedd ei dad o'n wrth Gymreig ofnadwy yn ol y son. Mae ei fam o yn byw yma erioed (ar wahan i chydig o amser i ffwrdd pan oedd ei phlant yn fach) Fodd bynnag- mae o'n siarad tipyn go lew efo dd ac mae ei Gymraeg o'n gwella'n arw

moondog · 24/04/2005 22:43

Fydd o'n well byth yn y dyfodol hefyd pf! Mae mam o Loegr ac wedi dilyn ni ein tair yn siarad efo Dad, ond ers blwyddyn mae hi'n cymeryd gwesri,yn siarad Cymraeg efo dd a ds ac am gystadlu yn yr eisteddfof y blwyddyn yma!!!

pixiefish · 25/04/2005 07:41

da iawn mam moondog. Mae'r Steddfod yn handi i ti leni tydi- jest rownd y gornel. Ti am fynd?

moondog · 25/04/2005 08:24

Wrth cwrs! Wedi trefnu gwaith dh rown y peth yn barod. mae o eisiau mynd i'r 'Royal Welsh' hefyd (dipyn o ffermwr 'di o!!)

sandycheeks · 25/04/2005 08:56

Sori gwenynbee doedd yr enw Sasi Rees yn golygu dim byd i fi. Mae gen i CD Cwm Rhyd y Rhosyn, ond mae 'na lot o siarad arno fo i bant bach. Gas i fy magu ar LP hefo llun pyramid o'r wyddor Gymraeg arno (dim syniad pwy oedd yn ei ganu a.y.b) ac roedd y CLASUR "tasa gen i ful bach" ar hwnnw. Roeddwn i wrth fy modd hefo'r record hwnnw - mae gan mam y record hyd heddiw ond yn anffodus does ganddi hi ddim chwaraewr recordiau
Dw i'n meddwl fod o'n wych dy fod di'n siarad Cymraeg i dy un bach di. Dw i'n diwtor ar ddosbarthiadau nos Cymraeg i oedolion ac mae hi gymaint yn anoddach i oedolion ddysgu Cymraeg !!
Hei Pixiefish wyt ti wedi edrych mewn i weithio fel tiwtor dosbarthiadau nos ? mae'r cyflog yn dda ac mae'r plant wedi mynd i'w gwlau. Dim ond dwy noson yr wythnos dwi 'n neud. Mae o'n rhoi rhywbeth i fi neud a chydig o bres poced i mi!

teeavee · 25/04/2005 12:30

Gai jest argymell CD arall i chi (a'ch plant)wrando arni, o'r enw Suo-ganeuon - hwiangerddi modern a hen (recordiau Sain)

Mae'n lyfli - miwsig tawel neis i leddfu'r nerfau!
dw i'n licio bob un o'r caneuon heblaw un neu ddwy - llawer o artistiaid gwahanol arni.
wir yr, werth i chi ei phrynu - mae hi'n gret i oedolion yn ogystal a phlant.
Dw i wedi gwneud copis i ffrindiau sydd wedi cael babis yn ddiweddar (ddylwn i ddim dweud hynny)

pixiefish · 25/04/2005 23:20

sandycheeks- newydd gael y newyddion wsos diwethaf ydw i - ddim wedi meddwl am lawer o ddim ar y funud i ddeud y gwir.

Dwi'n ffansio gwneud yr addysgu gartref ma- lle mae'r plant yn dod i'r ty am awr gyda'r nos i gael gwersi. Mi fedra'i wneud Cymraeg a Saesneg yli gan mai Cymraeg yw fy ngradd ond dwi di bod yn addysgu Saesneg am 5 mlynedd.

Tydi dd ddim yn dda am fynd i'w gwely ar y funud felly sa rhaid imi feddwl am y gwaith coleg na. Sut faswn i'n cael i mewn iddi da?

Swipe left for the next trending thread