Are your children’s vaccines up to date?

Set a reminder

Please or to access all these features

Parenting

For free parenting resources please check out the Early Years Alliance's Family Corner.

I'm calling the Welsh too...

133 replies

flamesparrow · 17/03/2005 22:28

My DP is Welsh, but only knows a handful of phrases... but I know that there are a couple he would to know.

Would someone be so kind as to tell me how to say (and write)

"I love you"
"Good Girl"
"Well Done"

Thankyou oodles. Thankyou and disgusting are about the extent of my knowledge!!! Ooh, and "big pit"... the joys of road signs...

OP posts:
Are your children’s vaccines up to date?
moondog · 18/03/2005 10:05

lol at you two with your naughty words!!!

Sandycheeks, mae o'n agored i BAWB yn rhad ac am ddim (efo babanod wrth cwrs.Byddaf o gwmpas wedyn efo'r therapydd cerdd i ymateb cwestiynau ayyb.)
Mae therapi cerdd yn wych! Ble wyt ti?
Efallai fy mod i'n nabod dy fam..?
Tyrd i Galeri!!
Mae na angen MAWR therapyddion cerdd, yn enwedig rhai sydd yn siarad Cymraeg.

Tiptop, dwi'n meddwl na 1987 ...Dim yn hollol siwr agos dan ni wedi symud ty yn ddiweddar ac mae o dal mewn bocs! Wnai ofyn i dh heno!

tiptop · 18/03/2005 10:12

moondog - Iawn. Ond dwi eisiau gwybod nawr! Dwi'n brysyr priodi ti gyda lot o dynion yn y photo! Dwi'n dod i edrych am Ffrindiau R i trio am clue bach.

moondog · 18/03/2005 10:15

Wnai anfon e mail....!

Interested in this thread?

Then you might like threads about this subject:

tiptop · 18/03/2005 10:19

Ti'n mynd i e mail fe, efallai? Ble mae pobl yn y teulu sy'n siarad Cymraeg pam di dy eisiau nhw? Oh, yeh, ysgol a gwaith; ac y ci ddim ond deall Cymraeg a ddim yn siarad e!

sandycheeks · 18/03/2005 10:25

Dwi'n byw wrth yml y pentref Eidaleg enwog!!
Mae mam yn athrawes yn Nolgellau rwan, ond mae hi di bod yng Nghaernarfon yn ddiweddar a chyn hynny yng Nghorris.
Cwestiwn gwirion rwan- ai dim ond plant o dan 18 mis gaiff ddod? mae gen i ddau un yn dair a'r llall fydd yn 9 mis mewn w'snos! Ond mi fydd dh adra i warchod yr hynnaf os bydd angen.

I agree with tiptop marthamoo takes the prize for being really rude!

moondog · 18/03/2005 10:33

Ydi hi yn yr uned arb.... yn Nolgellau?
(Sori, efallai yn gofyn gormod o gwestiynau)
Mae y gweithdy ar gyfer 8 babi rhwng 6-18 mis efo rhiant. Mae rhaid i ni gael 'cut off' o rhyw fath neu fydd o'n shambles, ac mae'r gweitrhgareddau wedi cael eu datblygu ar gyfer plant yr oedran 'ma.

Ond..mae na ddigon o bethau yn mynd ymlaen i bob oedran. Mae dh am ddod a'r dau ni i lawr i wneud pethau tra dwi'n gweithio.

Family day out go' iawn, a bar a chaffi neis.

sandycheeks · 18/03/2005 10:40

Dwi'n meddwl ei bod hi? newydd ddechrau mae hi, hefo plant oed cynradd mae hi beth bynag!
Mi fydd o'n neis cael amser hefo'r un bach ar fy mhen fy hun beth bynag. Nai wel os berswadia i dh i ddod (oes na gwrw ar gael!!) Pa fath o bethau sy'na i blant 3 oed?

moondog · 18/03/2005 10:43

Mae'r bar yn lyfli !!
Popeth-puppets,drama,cerdd,dawns,storis,hwiangerddi

Spia ar y wefan www.galericaernarfon.com

Gorfod mynd i nol dd o ysgol.

Hwyl!

sandycheeks · 18/03/2005 10:49

Gwych, diolch Moondog, rhywbeth i bawb felly!!

pixiefish · 18/03/2005 12:25

mi fydd rhaid ini gael cod o fath os oes na dair ohonom am fod yno sandycheeks

sandycheeks · 18/03/2005 13:12

Wel dyna hwyl! Mi fyddan ni'n teimlo fel rhyw fath o under cover agent.

pixiefish · 18/03/2005 15:43

Moondog- ti'n defnyddio clytie cadach twyt?

Ffrind imi di dechra group ar Yahoo efo clytie cadach. Dim llawer o aelode ar y funud- sgin ti ddiddordeb.
Sandycheeks- beth amdanat ti?

sandycheeks · 18/03/2005 16:02

'Roeddwn i wedi bwriadu trio clytiau cadach, ond ddim wedi meddwl ers geni ds. Dwi'n teimlo'n ddiog iawn rwan. Be dach chi'n ddefnyddio? Newydd gael tax rebate yn ddiweddar, felly swn i mewn gwell sefyllfa arianol i ddechrau eu defnyddio. Dwi'n licio meddwl mod i'n gwneud fy rhan i'r amgylchfyd. Yn rhagrithiol braidd nas i edrych yn hyll ar fy mam yng nghyfraith am beidio defnyddio ei bocs ail-gylchu.
Diolch am fy atgoffa Pixiefish!

pixiefish · 18/03/2005 17:31

mae rhain yn lleol ini mae ganddyn nhw nappy agent yn yr ardal hefyd. mi gei di syniad o be i gael ac mi gei di weld sampl cyn prynu. Dwi efo Tots Bots yn y nos ac amryw o rai gwahanol yn y dydd- mae o'n beth eitha 'addictive'. Motherease yw'r nappi gora i ddechra efo dwi'n meddwl (yn y dydd a tots bots yn y nos). Dwi efo rhai lyfli o'r enw Ecobaby hefyd. Wraps Motherease yw'r gorau. Cysyllta efo Babykind i gael gweld eu hasiant ac wedyn mi elli fynd o fano- ond dwi'n dy rybuddio- unwaith ti'n cychwyn!!!!

dyma iti safle defnyddiol arall mae nhw'n gwerthu kissaluvs a bob math o rei lyfli.

cadwa'n glir a^ Kooshies a rheni sy'n cael eu gwerthu'n y siopa.

Os tisio mwy o gyngor gyrra CAT imi ac mi wnai dy ebostio yn ol

tiptop · 19/03/2005 10:58

moondog - Dwi'n gobeithio y priodi ydy heddiw. Mae'n braf iawn heddiw. Lot well na priodi fi yn mis Awst (blwyddyn yn ol) gyda glaw trwy'r dydd. Tyd yn ol a dweud i fi y newyddion o'r priodi. Blodau, lliw dillad, etc.

Pob lwc i'r Cymru am y prynhawn.

moondog · 20/03/2005 10:49

Tiptop....priodas lyfli!!!
Teulu neis dros ben,haul yn sgleinio, dillad del(cream a lavender roedd y lliwiau popeth,parti neis, bwyd neis ac wrth cwrs......Cymru yn enill!!!! Lot o bobol yn gadael y pryd o fwyd i ddilyn y gem bob hyn a hyn, one wnaeth y 'best man' adael i ni wybod y sgor yn ei 'speech'!!

Rhyfedd,roedd rhieni yr hogan wedi priodi 27 o flynyddoedd yn ol ar y penwythnos wnaeth Cymru enill y 'grand slam' am y tro diwethaf-1978!!

Roedd awyrgylch yn y dre yn wych-pobol yn canu, dawnsi ar byrddau, fflagiau bob man-nosion bythcofiadwy!!
Sut oedd o yn dy dre di??

Ie,roedd y gwr yn y WAC o 85-87 (blwyddyn allan yn 86)!! Fel y dywedais, Wyn WAC mae nhw'n dal i alw fo. Wnai drio ffeindio y llun.

Pixiefish......hwreeeeeh!!!!!!!!! Sut oedd y dathliadau yn Sir Fon??!
Ie,bedi enw y grwp clytie? Er mwyn rhannu gwybodaeth ta be?? Gad i mi wybod.

moondog · 20/03/2005 13:50

OK, wedi ffeindio'r llun

1985...2nd from last row. 8th from the left, dark hair, v neck jumper and shirt. Looks dreadful

1987...back row.17th from the right. Slimmer with a grey t shirt with Nike logo on it.

Rwan...ble wyt ti??

pixiefish · 20/03/2005 21:27

moondog- ie grwp i rannu gwybodaeth ond toes na ddim llawer o ddim wedi digwydd eto. newydd ddechrau mae o. sgin ti ebost 'web based' y medri di ebostio fi- ebost fi ydi thepixiefish at yahoo dot com. Mi wnai roi'r linc iti wedyn ond dwi'm yn gwybod os ddyliwn i ei bostio fo yn fama.

sandycheeks- run fath iti os ti isie cysylltu-

tiptop · 20/03/2005 22:56

moondog - Ti'n joking! Mae e'n gorgeous! Dwi ddim yn nabod e at all! Y dyn dwi'n wedi licio ar y amser yw back row 3rd from left. Dwi'n yn jumper WAC du, yn y canol (ish), tipyn bach chwyth ail row. Gwallt melyn.

Amser gwely!

moondog · 21/03/2005 11:26

pixie, bedi 'web based' e bost? (sori-dwi'n hollol thick! Mae gen i un 'Hotmail' ac un arall.) Fuasa'r gyntaf yn addas?

Tiptop...you're too kind!! Ie, mae dy foi di yn reit neis. Wnei di byth coelio hyn, ond dwi wedi gweld dy lun di o blaen ac wedi meddwl bod ti un o'r genod delach ar y llun!!!(Roedd Wyn wasted yn cwyno am y diffyg talent-yn amlwg wnaeth o ddim dod adraws chdi!!!!)

sandycheeks · 21/03/2005 16:23

Helo,
Pixiefish - dwi wedi trio e-bostio chdi, ond mae o'n cau derbyn y cyfeiriad. Dwi rhy fath a postyn pan ma'n dod i bethau electroneg.
Faswn i'n gwerthfawrogi unrhyw gyngor am y clytiau cadach. Mae'na le arbennig i gael y wybodaeth yma ar MN yn does, ond i fi mae na lot o ddewis, gormod, a man mhen i'n troi!!!

sandycheeks · 21/03/2005 16:25

A gobeithio fod pawb wedi mwynhau buddugoliaeth dydd Sadwrn Weheiiiiiiiiiiiiiiiiiii!!!!!!!!!!!

tiptop · 07/04/2005 22:54

moondog - Diolch am dy post di. At least, dwi'n meddwl dwi'n deall e, gyda help o'r dictionary. Fy penblwydd fi ydy mis hon. Tri deg a chwech. Gulp! Dwi wedi cael newyddion dda -dwi'n gwella ac dwi'n mynd yn ol i'r gwaith soon. Pam fi yn hollol gwella, dwi'n mynd yn ol i'r dosbarth Cymraeg. Btw,esgusodwch fy spelling, ac fy grammar, hefyd! Sut wyt ti, te?

gwenynbee · 19/04/2005 22:10

Hwre! Falch o weld fod y Cymraeg yn cael rhyw adnebyddiad! Gynt o Sir Fon, ond yn byw yn ymyl Brum ers blynyddoedd!

Mae fy mabi yn diw Mehefin 2005, ac wedi bod yn gyrru fy ngariad i wersi Cymraeg yn lleol i fama "in preparation". Hefyd wedi "investio" mewn Sky TV er mwyn i'r bychan fedru gwylio Planed Plant! Mi fuaswn i yn falch o glywed gyn rhywyn arall Cymraeg sydd yn disgwyl, neu yn byw yn y Canolbarth! Cymerwch pob gofal!

sandycheeks · 23/04/2005 14:27

Haia Gwenynbee a helo gwresog i weddill y Cymry. Mae 'na aelod o'r teulu wedi bod yn ddifrifol sal yn ddiweddar ac mae pethau wedi bod chydig bach yn chwit chwat yma yn cheeky manor!.
Moondog - nas i fethu dod i'r sesiwn therapi cerdd yn y diwedd achos fod pethau wedi mynd yn drech arna i braidd a ds yn cael ei fedyddio y diwrnod wedyn. (Sandycheeks druan yn rhedeg o gwmpas fatha peth gwyllt yn trio coginio quiches, a cacennau a.y.b a dd yn trio HELPU?? hefyd)

Swipe left for the next trending thread